|

Dysgwch fwy am yr Helfa Coed Hynafol o Goed Cadw

Beth yw'r Helfa Coed Hyfanol?

Coed hynafol yw olion byw o oes anhygoel sy’n ysbrydoli teimladau o ryfeddod a dirgelwch ynom. Maen nhw wedi helpu i ffurfio ein hanes, ac yn sicr o helpu i lunio ein dyfodol os gadawn iddynt wneud hynny. A allwch ein helpu i ddatgelu eu cyfrinachau, i ddarganfod y bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt ac i ddatgloi hanesion canrifoedd?

Mae gan yr Helfa Coed Hynafol filoedd o bobl sy’n chwilio am ac yn mapio’r holl hen goed tewion ar draws Prydain, ac mae’n brosiect sydd wrth wraidd gwaith cadwraeth coed hynafol Coed Cadw. Bydd yn creu cronfa ddata fyw a chynhwysfawr o goed hynafol ac mae’n gam cyntaf tuag at eu coleddu a gofalu amdanynt.

Dechreuodd yr Helfa yn 2004 fel menter ar y cyd rhwng Cofrestr Goed Ynysoedd Prydain a’r Fforwm Coed Hynafol, ac yn barod mae wedi casglu mwy na 15,000 o gofnodion. Rwan, diolch i fwy o gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Sefydliad Esmee Fairbairn, mae’n newid gêr a, gyda’ch help chi a chymorth gan nifer o fudiadau partner, ein nod yw cofnodi o leiaf 100,000 o goed hynafol ledled Prydain erbyn 2011.

Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth llawer gwell inni o nifer a maint y coed hynafol sydd ym Mhrydain. Gallwch hefyd ddod o hyd i fanylion am goed hynafol wrth ymyl lle’r ydych yn byw neu lefydd y byddwch yn ymweld â nhw’n gyson.

Bydd y gronfa ddata yn egluro pa rai o’r coed hyn y gallwch fynd i’w gweld yn hawdd. (Am safleoedd sy’n agored, efallai y bydd dal angen ichi holi a oes unrhyw amseroedd agor arbennig neu dâl mynediad).

Mae coed hynafol i’w cael yn unrhyw le ac ym mhob man – felly mae hon yn helfa drysor y gall unrhyw un gymryd rhan ynddi.




Am ragor o wybodaeth, a wnewch chi gysylltu â The ATH Project Assistant.

People hunting for Ancient Trees. Photo: Jon Parsons

Fun hunting for trees